Lleoliad y cyfarfod:
Y Siambr - Y Senedd
Dyddiad y
cyfarfod:
Dydd Mawrth, 6
Mawrth 2018
Amser y
cyfarfod: 13.30
Gellir gwylio’r cyfarfod ar Senedd TV yn:
http://senedd.tv/cy/4910
------
Dechreuodd yr eitem am 13.30
Gofynnwyd y 9 cwestiwn cyntaf. Gwahoddodd y Dirprwy Lywydd arweinwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau i’r Prif Weinidog ar ôl cwestiwn 2.
Dechreuodd yr eitem am 14.16
Dechreuodd yr eitem am 14.35
Dechreuodd yr eitem am 15.27
Dechreuodd yr eitem am 16.20
NDM6676 Julie James (Gorllewin Abertawe)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 27.5:
1. Yn cymeradwyo bod y fersiwn ddrafft o’r Rheoliadau Gorfodi Gwastraff (Cymru a Lloegr) 2018 yn cael ei llunio yn unol â’r fersiwn ddrafft a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 25 Ionawr 2018.
Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Dechreuodd yr eitem am 16.26
NDM6674 Julie James (Gorllewin Abertawe)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 27.5:
1. Yn cymeradwyo bod y fersiwn ddrafft o Reoliadau Plant (Llety Diogel) (Cymru) (Diwygio) 2018 yn cael ei llunio yn unol â’r fersiwn ddrafft a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 1 Chwefror 2018.
Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Dechreuodd yr eitem am 16.31
Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig o dan yr eitem hon tan y Cyfnod Pleidleisio.
NDM6657 Julie James (Gorllewin Abertawe)
Cynnig bod y Cynulliad, yn unol â Rheol Sefydlog 20.30, yn cymeradwyo'r Ail Gyllideb Atodol ar gyfer y flwyddyn ariannol 2017-18 a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ac a e-bostiwyd at Aelodau'r Cynulliad ddydd Mawrth, 6 Chwefror 2018.
Troednodyn:
Yn unol â'r darpariaethau perthnasol yn Neddf Llywodraeth Cymru 2006 a Rheol Sefydlog 20, mae'r Gyllideb Atodol yn cynnwys yr wybodaeth ganlynol:
i. y datganiad ysgrifenedig sy'n ofynnol o dan adran 125(3) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006;
ii. yr adnoddau y cytunwyd arnynt gan y Trysorlys ar gyfer cyllideb bloc Cymru yn y flwyddyn ariannol y mae'r cynnig yn ymwneud â hi;
iii. cysoniad rhwng yr adnoddau a ddyrannwyd ar gyfer cyllideb bloc Cymru gan y Trysorlys a'r adnoddau yr awdurdodir eu defnyddio yn y cynnig;
iv. cysoniad rhwng y symiau amcangyfrifol sydd i'w talu i Gronfa Gyfunol Cymru gan yr Ysgrifennydd Gwladol a'r symiau yr awdurdodir eu talu o'r Gronfa yn y cynnig; a
v. cysoniad rhwng yr adnoddau i'w hawdurdodi o dan adran 125(1)(a) a (b) o'r Ddeddf a'r symiau yr awdurdodir eu talu o Gronfa Gyfunol Cymru o dan adran 125(1)(c).
Mae'r wybodaeth ychwanegol isod wedi'i darparu i'r Aelodau:
- nodyn yn egluro'r prif wahaniaethau rhwng y cynllun hwn a'r rhai blaenorol.
Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
29 |
23 |
0 |
52 |
Derbyniwyd y cynnig.
Dechreuodd yr eitem am 17.06
NDM6675 Julie James (Gorllewin Abertawe)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
Yn nodi adroddiad blynyddol Prif Arolygydd Ei Mawrhydi dros Addysg a Hyfforddiant yng Nghymru ar gyfer 2016-17.
Gosodwyd copi o’r adroddiad yn y Swyddfa Gyflwyno ar 25 Ionawr 2018.
Cyflwynwyd y gwelliant a ganlyn:
NDM6675 Rhun ap Iorwerth (Ynys Môn)
Ychwanegu fel pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn nodi bod y Prif Arolygydd yn datgan yn yr adroddiad bod “gwella’r cwricwlwm a phrofiadau dysgu disgyblion yn mynd law yn llaw â gwella ansawdd addysgu. Mae gwella addysgu yn mynnu gwell cymorth, dysgu proffesiynol a datblygiad staff ar gyfer athrawon presennol, yn ogystal â recriwtio gwell ac addysg a hyfforddiant cychwynnol gwell”.
Derbyniwyd y gwelliant yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
NDM6675 Julie James (Gorllewin Abertawe)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn nodi adroddiad blynyddol Prif Arolygydd Ei Mawrhydi dros Addysg a Hyfforddiant yng Nghymru ar gyfer 2016-17.
2. Yn nodi bod y Prif Arolygydd yn datgan yn yr adroddiad bod “gwella’r cwricwlwm a phrofiadau dysgu disgyblion yn mynd law yn llaw â gwella ansawdd addysgu. Mae gwella addysgu yn mynnu gwell cymorth, dysgu proffesiynol a datblygiad staff ar gyfer athrawon presennol, yn ogystal â recriwtio gwell ac addysg a hyfforddiant cychwynnol gwell.
Derbyniwyd y cynnig fel y’i diwygiwyd yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Dechreuodd yr eitemau am 17.57
Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig o dan yr eitem hon tan y Cyfnod Pleidleisio.
NDM6672 Julie James (Gorllewin Abertawe)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 26.95 yn: Cytuno bod Bil llywodraeth a gaiff ei alw'n Fil Cyfraith sy'n Deillio o'r Undeb Ewropeaidd (Cymru) a gyflwynir yn y Cynulliad, yn cael ei drin fel Bil Brys llywodraeth. Yn unol â Rheol Sefydlog 26.95A, gosodwyd datganiad ynglŷn â'r Bil a gaiff ei alw'n Fil Cyfraith sy'n Deillio o'r Undeb Ewropeaidd (Cymru) gerbron y Cynulliad ar 27 Chwefror 2018.
Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
44 |
0 |
10 |
54 |
Derbyniwyd y cynnig.
Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig o dan yr eitem hon tan y Cyfnod Pleidleisio.
NDM6673 Julie James (Gorllewin Abertawe)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 26.98(ii) yn: Cytuno y bydd yr amserlen ar gyfer Bil Brys llywodraeth a gaiff ei alw'n Fil Cyfraith sy'n Deillio o'r Undeb Ewropeaidd (Cymru) fel ag y mae yn yr Amserlen ar gyfer ystyried Bil Cyfraith sy'n Deillio o'r Undeb Ewropeaidd (Cymru) a osodwyd gerbron y Cynulliad ar 27 Chwefror 2018.
Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
43 |
0 |
11 |
54 |
Derbyniwyd y cynnig.
Dechreuodd yr eitem am 18.44
Daeth y cyfarfod i ben am 18.46
Cynhelir Cyfarfod Llawn nesaf y Cynulliad am 13.30, Dydd Mercher, 7 Mawrth 2018